Beth rydym yn credu

BETH RYDYM YN CREDU

CREDO ATHRAWIAETHOL

  1. Derbyniwn y Beibl (hynny yw, Ysgrythurau Sanctaidd yr Hen Destament a’r Newydd) fel y’u rhoddwyd yn wreiddiol yn Air Duw, o ddwyfol ysbrydoliaeth, anffaeledig, ac felly yn hollol ddibynadwy a’n hawdurdod terfynnol ym mhob agwedd o’n ffydd a’n buchedd. Credwn y cyfan a ddysgir ynddynt gan gynnwys yn arbennig y canlynol:
  2. Credwn yn yr unig wir a’r bywiol Dduw, yn Drindod Sanctaidd mewn perffaith undeb, yn Dad, Mab ac Ysbryd Glan, yn ogyfuwch ac yn ogyd-dragwyddol a’i gilydd ac yn benarglwyddiaethol yn y creu, yn rhagluniaeth ac yn y brynedigaeth.
  3. Credwn yn natur bechadurus pawb fel canlyniad i’r Cwymp. Mae pechod yn halogi dynion, yn eu llywodraethu, yn llygru pob rhan o’u personoliaeth. Mae pob dyn yn euog ger bron Duw sanctaidd ac yn agored i’r gosp honno mae ei ddigofaint a’i gondemniad ar bechod yn eu hawlio ac mewn angen am iachawdwriaeth.
  4. Credwn yn Nuw y Tad sy’n llawn trugaredd, cariad a gras. Yn ei gariad anfeidrol a’i ddoethineb anfonodd ei Unig Fab i’r byd syrthiedig fel yr achubid y byd trwyddo Ef.
  5. Credwn yn Nuw y Mab ymgnawdoledig, Iesu Grist y mae ei wir ddyndod a’i berffaith dduwdod wedi eu dirgel gysylltu yn undod ei Berson dwyfol; ei enedigaeth gwyrthiol; ei fywyd a’i ddysgeidiaeth berffaith, ei ddioddefaint a’i farwolaeth ddirprwyol ar y groes lle gorchfygodd Satan gan wneuthur iawn digonol dros ein pechodau. Credwn Iddo atgyfodi yn gorfforol gan orchfygu angau ac Iddo esgyn i’r nef lle mae’n eiriol dros Ei bobl ar ddeheulaw Duw y Tad.
  6. Credwn yn Nuw yr Ysbryd Glan y mae Ei waith yn anhepgorol i ail-eni pechaduriaid, i’w tywys i edifeirwch a ffydd yng Nghrist, i’w sancteiddio yn y byd a’r bywyd hwn ac i’w cymhwyso i fwynhau cymdeithas a Duw a’u galluogi i’w wasanaethu yn effeithiol.
  7. Credwwn fod Duw yn cyfiawnhau pechaduriaid yn rhad trwy eu ffydd yng Nghrist yn unig, ei fod yn cyfrif cyfiawnder Crist - ac nid eu pechodau y rhai mae wedi eu maddau - fel bod eu hiachawdwriaeth trwy ras yn unig (ac nid trwy haeddiant dynol.)
  8. Credwn yn yr Eglwys Fydeang, Corff y mae Crist yn ben arno ag sydd yn cynnwys pawb sydd wedi eu galw trwy Ei Air, wedi eu geni o’r Ysbryd a’u cyfiawnhau trwy ffydd yn Nghrist. Credwn yn yr eglwys leol sy’n fynegiant o’r Eglwys Fyd-eang ac yng nghymdeithas eglwysi lleol i arddangos undod corff Crist.
  9. Credwn yn Ordinhad Crist o’r Bedydd (nad yw’n cyfleu gras ail-anedigol) a Swper yr Arglwydd (nad yw’n aberth dros bechod na’r elfennau, y bara a’r gwin yn troi yn gorff a gwaed Crist.
  10. Credwn yn Ail- ddyfodiad personol, gweladwy a gogoneddus yr Arglwydd Iesu Grist i farnu y byd mewn cyfiawnder; derbyniad credinwyr i lawenydd tragwyddol yr Arglwydd, eu hetifeddiaeth yn y nef newydd a’r ddaear newydd; derbyn eu cyrff atgyfodedig tra condemnir angrhedinwyr i uffern fel cosp am eu pechodau.
cyWelsh