{"id":20,"date":"2019-10-04T14:34:25","date_gmt":"2019-10-04T13:34:25","guid":{"rendered":"http:\/\/www.balaevangelicalchurch.org\/?page_id=20"},"modified":"2019-10-04T14:34:25","modified_gmt":"2019-10-04T13:34:25","slug":"what-we-believe","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/balaevangelicalchurch.org\/cy\/about-us\/what-we-believe\/","title":{"rendered":"Beth rydym yn credu"},"content":{"rendered":"<h2 class=\"wp-block-heading\"><span style=\"color: #00233b;\"><strong>BETH RYDYM YN CREDU<\/strong><\/span><\/h2>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">CREDO ATHRAWIAETHOL<\/h2>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\"><li>Derbyniwn y Beibl (hynny yw, Ysgrythurau Sanctaidd yr Hen Destament a\u2019r Newydd) fel y\u2019u rhoddwyd yn wreiddiol yn Air Duw, o ddwyfol ysbrydoliaeth, anffaeledig, ac felly yn hollol ddibynadwy a\u2019n hawdurdod terfynnol ym mhob agwedd o\u2019n ffydd a\u2019n buchedd.  Credwn y cyfan a ddysgir ynddynt gan gynnwys yn arbennig y canlynol:<\/li><li>Credwn yn yr unig wir a\u2019r bywiol Dduw, yn Drindod Sanctaidd mewn perffaith undeb, yn Dad, Mab ac Ysbryd Glan, yn ogyfuwch ac yn ogyd-dragwyddol a\u2019i gilydd ac yn benarglwyddiaethol yn y creu, yn rhagluniaeth ac yn y brynedigaeth.<\/li><li>Credwn yn natur bechadurus pawb fel canlyniad i\u2019r Cwymp.  Mae pechod yn halogi dynion, yn eu llywodraethu, yn llygru pob rhan o\u2019u personoliaeth.  Mae pob dyn yn euog ger bron Duw sanctaidd ac yn agored i\u2019r gosp honno mae ei ddigofaint a\u2019i gondemniad ar bechod yn eu hawlio ac mewn angen am iachawdwriaeth.<\/li><li>Credwn yn Nuw y Tad sy\u2019n llawn trugaredd, cariad a gras.  Yn ei gariad anfeidrol a\u2019i ddoethineb anfonodd ei Unig Fab i\u2019r byd syrthiedig fel yr achubid y byd trwyddo Ef.<\/li><li>Credwn yn Nuw y Mab ymgnawdoledig, Iesu Grist y mae ei wir ddyndod a\u2019i berffaith dduwdod wedi eu dirgel gysylltu yn undod ei Berson dwyfol;  ei enedigaeth gwyrthiol; ei fywyd a\u2019i ddysgeidiaeth berffaith, ei ddioddefaint a\u2019i farwolaeth ddirprwyol ar y groes lle gorchfygodd Satan gan wneuthur iawn digonol dros ein pechodau.  Credwn Iddo atgyfodi yn gorfforol gan orchfygu angau ac Iddo esgyn i\u2019r nef lle mae\u2019n eiriol dros Ei bobl ar ddeheulaw Duw y Tad.<\/li><li>Credwn yn Nuw yr Ysbryd Glan y mae Ei waith yn anhepgorol i ail-eni pechaduriaid, i\u2019w tywys i edifeirwch a ffydd yng Nghrist, i\u2019w sancteiddio yn y byd a\u2019r bywyd hwn ac i\u2019w cymhwyso i fwynhau cymdeithas a Duw a\u2019u galluogi i\u2019w wasanaethu yn effeithiol.<\/li><li>Credwwn fod Duw yn cyfiawnhau pechaduriaid yn rhad trwy eu ffydd yng Nghrist yn unig, ei fod yn cyfrif cyfiawnder Crist - ac nid eu pechodau y rhai mae wedi eu maddau - fel bod eu hiachawdwriaeth trwy ras yn unig (ac nid trwy haeddiant dynol.)<\/li><li>Credwn yn yr Eglwys Fydeang, Corff y mae Crist yn ben arno ag sydd yn cynnwys pawb sydd wedi eu galw trwy Ei Air, wedi eu geni o\u2019r Ysbryd a\u2019u cyfiawnhau trwy ffydd yn Nghrist.  Credwn yn yr eglwys leol sy\u2019n fynegiant o\u2019r Eglwys Fyd-eang ac yng nghymdeithas eglwysi lleol i arddangos undod corff Crist.<\/li><li>Credwn yn Ordinhad Crist o\u2019r Bedydd (nad yw\u2019n cyfleu gras ail-anedigol) a Swper yr Arglwydd (nad yw\u2019n aberth dros bechod na\u2019r elfennau, y bara a\u2019r gwin yn troi yn gorff a gwaed Crist.<\/li><li>Credwn yn Ail- ddyfodiad personol, gweladwy a gogoneddus yr Arglwydd Iesu Grist i farnu y byd mewn cyfiawnder; derbyniad credinwyr i lawenydd tragwyddol yr Arglwydd, eu hetifeddiaeth yn y nef newydd a\u2019r ddaear newydd; derbyn eu cyrff atgyfodedig tra condemnir angrhedinwyr i uffern fel cosp am eu pechodau.<\/li><\/ol>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>WHAT WE BELIEVE BASIS OF FAITH We accept the Bible (that is, the Holy Scriptures of the Old and New Testaments alone) as originally given, to be the Word of God, inspired by Him and infallible, and so completely reliable and trustworthy, our sufficient and supreme authority in all matters of faith and practice. And, &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/balaevangelicalchurch.org\/cy\/about-us\/what-we-believe\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;What we believe&#8221;<\/span><\/a><\/p>","protected":false},"author":1,"featured_media":1447,"parent":1562,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-20","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/balaevangelicalchurch.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/20","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/balaevangelicalchurch.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/balaevangelicalchurch.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/balaevangelicalchurch.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/balaevangelicalchurch.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=20"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/balaevangelicalchurch.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/20\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/balaevangelicalchurch.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1562"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/balaevangelicalchurch.org\/cy\/wp-json\/"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/balaevangelicalchurch.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=20"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}